Mae AskSARA yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am gynhyrchion sy'n gwneud bywyd bob dydd yn haws.
Mae AskSARA yn offeryn cyngor dan arweiniad ar-lein a grëwyd mewn partneriaeth â rhaglen Living Made Easy y Sefydliad Byw i'r Anabl. Mae'n rhoi cyngor diduedd am atebion technoleg gynorthwyol addas sy'n galluogi pobl hŷn, a phobl anabl o bob oed, i fyw'n annibynnol a chynnal eu dewis o ffordd o fyw.